Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mawrth 2021
Amser:
09.00 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11123
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Mark Isherwood AS Rhianon Passmore AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Simon Hart MP, Swyddfa Cymru Geth Williams, Swyddfa Cymru Debra Carter, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Marcella Maxwell, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cymerodd yr aelodau canlynol o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ran yn eitemau 5 a 7, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49:
- David Rees AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Nick Ramsay AS
- David Rowlands AS
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch Cynnig Cyllideb Atodol diwygiedig – 2 Mawrth 2021
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch cyllid a ddyrannwyd i gefnogi busnes yn ystod y pandemig – 2 Mawrth 2021
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Cyllideb Llywodraeth yr Alban 2021-22 – 4 Mawrth 2021
2.4 PTN 4 - Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch porthladdoedd rhydd yng Nghymru – 4 Chwefror 2021
2.5 PTN 5 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 5 Mawrth 2021
3 Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar waith gwaddol y Pwyllgor Cyllid gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ddarparu:
- Rhagor o wybodaeth trwy'r Gweinidog Addysg ynghylch dyraniad cyllid ar gyfer ymchwil mewn Sefydliadau Addysg Uwch.
4 Offerynnau Statudol ym maes treth: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr offeryn statudol ym maes treth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp.
4.2 Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a'i swyddogion am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â'r Pwyllgor dros gyfnod y Bumed Senedd.
5 Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Sesiwn dystiolaeth
5.1 Croesawu’r Aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a wahoddwyd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
5.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad a Pholisi, Swyddfa Cymru.
5.3 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
- Darparu rhagor o wybodaeth am statws Gwynedd fel ardal categori 3 mewn perthynas â'r Gronfa Codi’r Gwastad.
- Siarad â Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch rheolaeth Trysorlys Ei Mawrhydi o ran faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei drosglwyddo o’r ‘grant bloc’ i’r flwyddyn ariannol nesaf.
- Archwilio honiadau Llywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas at y diben gyda Thrysorlys EM.
5.4 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau presennol a chyn-aelodau'r Pwyllgor Cyllid, ac i'r holl randdeiliaid a thystion, am eu cyfraniadau gwerthfawr dros gyfnod y Bumed Senedd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 17 Mawrth 2021
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9 Offerynnau Statudol ym maes treth: Trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gytuno i gyflwyno adroddiad ar yr offeryn statudol.
10 Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft: Trafod yr adroddiad drafft
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.